P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Geiriad y
ddeiseb
Galwn
ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w
gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i
gyhoeddi manylion yr holl wariant dros £500 er mwyn bod yn
agored a thryloyw. Dylai’r manylion gael eu cyhoeddi ar-lein
ac mewn fformat sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gyda’r
rhyddid i ailddefnyddio’r data.
Cefndir
Cynigiwyd y ddeiseb gan Jacqui
Thompson a chasglwyd 77 o lofnodion
arni.